Dysgu
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Mae First Give yn cefnogi myfyrwyr i ddysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau. Trwy’r rhaglen, bydd myfyrwyr yn dewis yr elusennau maen nhw’n dymuno eu cefnogi trwy ymgyrchoedd cymunedol.
Cyfanswm o £814,500 wedi’i ddyrannu i elusennau (2014-2020)
Cyfanswm o £175,210 wedi’i godi gan fyfyrwyr (2014-2020)
Cyfanswm o 909 o elusennau buddugol (2014-2020)
Y tri mater cymdeithasol mwyaf poblogaidd a ddewiswyd gan fyfyrwyr ers 2018 yw
o ysgolion (2020/21)
o fyfyrwyr (2020/21)
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i elusennau sy’n gweithio yn eu cymunedau, ac fel dosbarth, byddant yn dewis elusen i’w chynrychioli.
Rydych chi wedi cael eich dewis gan ddosbarth o fyfyrwyr! Dylech gael gwahoddiad i gwrdd â’r dosbarth er mwyn i chi allu siarad gyda nhw am sut i gynllunio prosiectau ymgyrch gymunedol i’ch helpu chi.
Lawr lwythwch ein dogfen PDF yn cynnwys y cwestiynau a ofynnir yn aml gan fyfyrwyr yn ystod eich cyfarfod First Give cyntaf.
Bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn cyflawni ymgyrch gymunedol (codi arian, codi ymwybyddiaeth, gwirfoddoli) i gefnogi eu helusennau.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau siarad cyhoeddus ac yn creu cyflwyniadau creadigol ynglŷn â gwaith eu helusen a’r hyn y mae eu dosbarth wedi’i wneud i’w cefnogi.
Bydd un grŵp yn cael ei ddewis i gynrychioli pob dosbarth yn Rownd Derfynol First Give eich ysgol. Bydd panel o feirniaid yn marcio pob dosbarth yn seiliedig ar eu hymgyrch gymunedol a’u cyflwyniadau. Bydd y dosbarth buddugol yn ennill grant First Give o £1,000 ar gyfer eu helusen.
Mae Rowndiau Terfynol First Give yn ddathliad o waith y grŵp blwyddyn cyfan. Maen nhw’n gyfle i fyfyrwyr sefyll ar eu traed a siarad am y materion sydd o bwys iddyn nhw ac i arddangos eu hymgyrch gymunedol. Bydd pob ysgol yn cynnal y Rownd Derfynol ychydig yn wahanol, ond maen nhw’n ddigwyddiadau llawn ysbrydoliaeth!
Ymunwch â Rownd Derfynol First Give eich dosbarth i ddathlu’r holl waith caled maen nhw wedi’i wneud i gefnogi eich achos.
Y peth pwysicaf yr ydw i wedi’i ddysgu yw bod gwaith tîm yn allweddol, ac mae wedi rhoi hwb i’m hyder. Mae hyn hefyd wedi cynyddu fy ymwybyddiaeth o’r elusennau sydd ar gael o gwmpas fy nghymuned.
Yn ogystal â’r profiad hwyliog o ddysgu gyda’n gilydd, mae’r elusen wrth ei bodd ein bod wedi elwa o’r £1,000. Bydd yr arian yn mynd tuag at ein cynorthwyo i ariannu ein gwasanaeth cwnsela.
Rydym ni wrth ein bodd ein bod wedi ennill y grant First Give gwerth £1,000… Heb sôn am yr arian, mae’n braf iawn gweld myfyrwyr yn dysgu am faterion lleol ac yn codi ymwybyddiaeth o elusennau lleol.
Mae’r bobl ifanc yn barod iawn i roi’n ôl i achosion lleol ac i’r gymuned leol, ac nid wyf yn credu y byddant yn anghofio am hyn ar ddiwedd y rhaglen. Rwy’n siŵr y byddant yn parhau ac yn gwirfoddoli er mwyn codi mwy o arian.
Maen nhw wedi bod yn wych. Dydw i ddim yn credu ein bod ni erioed wedi cael grŵp o bobl mor frwdfrydig ynglŷn â chodi arian ar ein rhan.
Mae First Give yn ffordd wych o uwch sgilio ein myfyrwyr gan hefyd gyfrannu at elusennau o fewn ein cymunedau. Mae’n rhaglen wych i bob un sy’n rhan ohoni.
Mae croeso i gynrychiolwyr o elusennau i fynychu’r Rownd Derfynol First Give mewn ysgolion lle mae’r myfyrwyr wedi dewis eu helusen. Fel arfer, mae’r ysgol yn dueddol o gydlynu’r gwahoddiadau eu hunain, ond os oes gennych chi unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni yma yn First Give
Os ydych chi’n ennill y wobr o £1,000, bydd First Give yn anfon siec atoch. Bydd unrhyw arian a gesglir gan bobl ifanc yn cael ei anfon yn uniongyrchol atoch chi gan yr ysgol.
Bu un o’r dosbarthiadau yn Ysgol Gymunedol Jo Richardson yn cefnogi elusen Young Carers of Barking and Dagenham. Buom yn siarad gyda Ronda Browne, cynrychiolydd o’r elusen a gwelsom fod y myfyrwyr wedi cynnal ystod o weithgareddau i’w cefnogi, gan gynnwys digwyddiadau codi arian, yn ogystal â gwahodd Blwyddyn 7 i ymuno mewn ymgyrch i gasglu bwyd ar gyfer banc bwyd yr elusen. Er na wnaethon nhw ennill y grant o £1,000, roedd Ronda yn hynod o falch o’r effaith a gafwyd gan y myfyrwyr.
Llwyddodd y myfyrwyr y buom yn ymgysylltu â nhw drwy raglen First Give i godi digon o arian i gynnal gwerth 3 mis o weithgareddau. Ar ben hynny, fe wnaethon nhw gasglu bwyd ac eitemau hanfodol eraill i gefnogi’r 65 teulu sy’n defnyddio ein banc bwyd.
a llawer mwy!