Dysgu
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Trwy gynllun gwaith sy’n cynnwys yr holl adnoddau angenrheidiol, mae ein rhaglen yn annog myfyrwyr i ymgysylltu gyda’u cymuned ac i wneud gwahaniaeth i achosion sydd o bwys iddyn nhw drwy ymgyrchoedd cymunedol.
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i elusennau sy’n gweithio yn eu cymunedau, ac fel dosbarth, byddant yn dewis elusen i’w chynrychioli.
Bydd elusennau’n cael gwahoddiad i gwrdd â’r dosbarth, er mwyn i fyfyrwyr allu dysgu mwy am eu gwaith a sut y gallant eu helpu.
Bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn cyflawni ymgyrch gymunedol (codi arian, codi ymwybyddiaeth, gwirfoddoli) i gefnogi eu helusennau.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau siarad cyhoeddus ac yn creu cyflwyniadau creadigol ynglŷn â gwaith eu helusen a’r hyn y mae eu dosbarth wedi’i wneud i’w chefnogi.
Bydd un grŵp yn cael ei ddewis i gynrychioli pob dosbarth yn Rownd Derfynol First Give eich ysgol. Bydd panel o feirniaid yn marcio pob dosbarth yn seiliedig ar eu hymgyrch gymunedol a’u cyflwyniadau. Bydd y dosbarth buddugol yn ennill grant First Give o £1,000 ar gyfer eu helusen.
Mae Rowndiau Terfynol First Give yn ddathliad o waith y grŵp blwyddyn cyfan. Maen nhw’n gyfle i fyfyrwyr sefyll ar eu traed a siarad am y materion sydd o bwys iddyn nhw ac i arddangos eu hymgyrch gymunedol. Bydd pob ysgol yn cynnal y Rownd Derfynol ychydig yn wahanol, ond maen nhw’n ddigwyddiadau llawn ysbrydoliaeth!
E-bostiwch info@firstgive.co.uk i ddarganfod mwy am sut yr ydym ni’n bodloni gofynion eich cwricwlwm.
Mae’r rhaglen First Give yn cynnwys Gwasanaeth Lansio, wyth gwers 50 munud o hyd, Gweithdy a’r Rownd Derfynol. Mae rhai ysgolion yn darparu’r gwersi hyn yn wythnosol (gan gymryd tua 12 wythnos i gyd), ac mae rhai’n cynnal y rhaglen dros gyfnod o ddau ddiwrnod llawn neu fwy y tu allan i’r amserlen arferol (gan gwblhau’r rhaglen mewn un hanner tymor). Gall y Rheolwr Rhaglen a benodir ar eich cyfer eich cynorthwyo i ddod o hyd i’r amserlen orau ar gyfer eich ysgol
Mae First Give yn bodloni nifer o wahanol feysydd cwricwlwm yng Nghymru a Lloegr. Gellir dysgu’r rhaglen o fewn unrhyw faes o’ch dewis chi o fewn y cwricwlwm.
Lawr lwythwch ein Canllaw i Gysylltiadau’r Cwricwlwm i ddarganfod mwy.
Bydd eich ysgol chi’n cyfrannu £500 er mwyn cynnal rhaglen First Give. Yn gyfnewid am hyn, byddwch chi’n derbyn:
Mae sesiynau o bell ar gael os oes angen
Noder, mae First Give yn cynnig yr uchod yn Saesneg neu’n Gymraeg
o fyfyrwyr yn nodi bod eu hymwybyddiaeth o faterion cymdeithasol yn eu cymuned wedi cynyddu (2018/2019)
o fyfyrwyr yn dweud eu bod am gynnal mwy o ymgyrchoedd cymunedol neu’n dymuno gwneud hynny yn y dyfodol o ganlyniad i First Give (2018/19)
o athrawon yn dweud bod First Give wedi ysbrydoli cydwybod gymdeithasol (2018/19)
o fyfyrwyr yn nodi eu bod wedi gwella eu sgiliau mewn o leiaf un o’n meysydd sgiliau allweddol (2018/19)
o fyfyrwyr (2020/21)
o ysgolion (2020/21)
Mae’r Rownd Derfynol yn Ark Acton Academy bob amser wedi bod yn ddigwyddiad cyffrous yng nghalendr yr ysgol. Mae’n gyfle blynyddol i fyfyrwyr siarad am y pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymgyrch gymunedol i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at yr elusennau a ddewiswyd ganddynt. Ar ben hynny, llwyddodd y dosbarth buddugol, a oedd yn cefnogi’r elusen leol Acton Homeless Concern, i drefnu casglu dillad cynnes a rhoddion eraill er budd lloches yr elusen ar gyfer pobl ddigartref.
Fy hoff beth am gymryd rhan yn rhaglen First Give oedd y Rownd Derfynol. Dyma’r foment pan ddaeth popeth at ei gilydd, ac fe gawsom ni’r cyfle i rannu sut wnaeth ein dosbarth cofrestru helpu ein helusen.
Mae [First Give] yn berthnasol iawn yn benodol i ddau o werthoedd allweddol ein hysgol, sef hyder a chyfrifoldeb cymdeithasol… mae cyfrifoldeb cymdeithasol yn deillio o’n dealltwriaeth o’n cyfrifoldeb i weithio er lles pobl eraill
Pan wnes i ddod ar draws y rhaglen First Give er mwyn datblygu dinasyddiaeth trwy gyfrwng gwersi ar weithredu ac eiriolaeth, cefais syndod faint o adnoddau, cynlluniau gwersi, fideos, adnoddau rhyngweithiol, cymorth ac arweiniad oedd ar gael.”
Mae First Give wedi ein cefnogi i sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad positif i’n cymuned, gan hefyd ddatblygu ein myfyrwyr fel arweinwyr gyda chydwybod gymdeithasol.
“Mae’r rhaglen [First Give] yn helpu ein myfyrwyr i ddatblygu eu hannibyniaeth a’u hyder ac yn eu galluogi i ddysgu mwy amdanynt eu hunain, gan hefyd ddatblygu ymdeimlad o empathi a chyfrifoldeb o fewn y gymuned.”
“Mae [First Give] yn ei gwneud hi’n hawdd i fyfyrwyr gwblhau ymgyrch gymunedol gan fod yr adnoddau’n darparu strwythur clir i’w ddilyn. Mae’r adnoddau’n glir ac yn hawdd eu deall ac yn annog myfyrwyr i fyfyrio ar eu cynnydd yn gyson.”
“Mae gweld myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu haddysg eu hunain, ac yn magu hyder wrth iddynt weld yr effaith maen nhw’n gallu ei gael wedi bod yn gyffrous iawn! Byddem yn bendant yn argymell y rhaglen i ysgolion ac athrawon eraill.”