Dysgu
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Mae First Give wedi ein cefnogi i sicrhau ein bod yn gwneud cyfraniad positif i’n cymuned, gan hefyd ddatblygu ein myfyrwyr fel arweinwyr gyda chydwybod gymdeithasol
Mae gweld myfyrwyr yn cymryd cyfrifoldeb am eu haddysg eu hunain, ac yn magu hyder wrth iddynt weld yr effaith maen nhw’n gallu ei gael wedi bod yn gyffrous iawn! Byddem yn bendant yn argymell y rhaglen i ysgolion ac athrawon eraill.
Y peth pwysicaf yr ydw i wedi’i ddysgu yw bod gwaith tîm yn allweddol, ac mae wedi rhoi hwb i’m hyder. Mae hyn hefyd wedi cynyddu fy ymwybyddiaeth o’r elusennau sydd ar gael o amgylch fy nghymuned.
Y peth pwysicaf yr ydw i wedi’i ddysgu ar y rhaglen hon yw sut mae camau bychain iawn yn gallu effeithio pobl, fel sut mae ymgyrchoedd cymunedol yn gallu gwneud gwahaniaeth.
Pan wnes i ddod ar draws y rhaglen First Give er mwyn datblygu dinasyddiaeth trwy gyfrwng gwersi ar weithredu ac eiriolaeth, cefais syndod faint o adnoddau, cynlluniau gwersi, fideos, adnoddau rhyngweithiol, cymorth ac arweiniad oedd ar gael.
Mae’r rhaglen First Give yn darparu canlyniadau gwych ar gyfer ysgolion a’u cymunedau - mae’r effaith bositif hon ar y gymdeithas yn cynnig elw gwych ar ein buddsoddiad.
Rydym ni’n gweithio gydag ysgolion uwchradd i ysbrydoli a grymuso pobl ifanc i weithredu ac i fynd i’r afael â materion cymdeithasol.
Dros gyfres o wyth gwers, bydd myfyrwyr yn:
Bydd myfyrwyr yn dysgu am faterion cymdeithasol yn eu cymunedau ac yn dewis y materion pwysicaf iddyn nhw.
Bydd myfyrwyr yn ymchwilio i elusennau sy’n gweithio yn eu cymunedau, ac fel dosbarth, byddant yn dewis elusen i’w chynrychioli.
Bydd elusennau’n cael gwahoddiad i gwrdd â’r dosbarth, er mwyn i fyfyrwyr allu dysgu mwy am eu gwaith a sut y gallant eu helpu.
Bydd myfyrwyr yn cynllunio ac yn cyflawni ymgyrch gymunedol (codi arian, codi ymwybyddiaeth, gwirfoddoli) i gefnogi eu helusennau.
Bydd myfyrwyr yn dysgu sgiliau siarad cyhoeddus ac yn creu cyflwyniadau creadigol ynglŷn â gwaith eu helusen a’r hyn y mae eu dosbarth wedi’i wneud i’w chefnogi.
Bydd un grŵp yn cael ei ddewis i gynrychioli pob dosbarth yn Rownd Derfynol First Give eich ysgol. Bydd panel o feirniaid yn marcio pob dosbarth yn seiliedig ar eu hymgyrch gymunedol a’u cyflwyniadau. Bydd y dosbarth buddugol yn ennill grant First Give o £1,000 ar gyfer eu helusen.
Mae Rowndiau Terfynol First Give yn ddathliad o waith y gr?p blwyddyn cyfan. Maen nhw’n gyfle i fyfyrwyr sefyll ar eu traed a siarad am y materion sydd o bwys iddyn nhw ac i arddangos eu hymgyrch gymunedol. Bydd pob ysgol yn cynnal y Rownd Derfynol ychydig yn wahanol, ond maen nhw’n ddigwyddiadau llawn ysbrydoliaeth!
Mae’r panel beirniaid ar gyfer Rowndiau Terfynol fel arfer yn cynnwys staff o’r ysgol yn ogystal ag aelodau o’r gymuned leol a wahoddir gennym ni. Ar hyn o bryd, nid oes modd i ni drefnu bod beirniaid allanol yn mynychu’r digwyddiadau, ond os hoffech chi fynegi diddordeb mewn beirniadu yn y dyfodol, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!
Mae’r Rownd Derfynol yn Ark Acton Academy bob amser wedi bod yn ddigwyddiad cyffrous yng nghalendr yr ysgol. Mae’n gyfle blynyddol i fyfyrwyr siarad am y pethau sydd o bwys iddyn nhw. Bu myfyrwyr yn cymryd rhan mewn ymgyrch gymunedol i godi ymwybyddiaeth ac arian tuag at yr elusennau a ddewiswyd ganddynt. Ar ben hynny, llwyddodd y dosbarth buddugol, a oedd yn cefnogi’r elusen leol Acton Homeless Concern, i drefnu casglu dillad cynnes a rhoddion eraill er budd lloches yr elusen ar gyfer pobl ddigartref.
Fy hoff ran o gymryd rhan yn rhaglen First Give oedd y Rownd Derfynol. Dyma’r foment pan ddaeth popeth at ei gilydd, ac fe gawsom ni’r cyfle i rannu sut wnaeth ein dosbarth cofrestru helpu ein helusen.
Cysylltwch â’n tîm i ddarganfod sut y gallwch chi gymryd rhan.
Cysylltwch â ni